A Golden Moment: Accessioning the 2022 Alternative Miss World Crown Jewels

Last week was a truly golden moment for me as Project Curator at the Andrew Logan Museum of Sculpture as we officially accessioned the ‘Gold’ Alternative Miss World Crown Jewels into our collection!
This milestone is part of our ongoing Legacy Project, generously supported by the National Lottery Heritage Fund, and marks a wonderful step forward in preserving and celebrating Andrew’s extraordinary legacy.
As a curator, accessioning feels to me like giving each sculpture its rightful place in the museum’s story. This process of documenting, condition-checking, labelling, and officially welcoming an object into the permanent collection requires meticulous attention to detail, to which we owe much gratitude to our wonderful volunteers who are not accessioning aficionados! Yesterday, after completing these steps, we proudly placed the Crown Jewels on display in the Museum’s window case for all to see!
Our Project Coordinator Judy summed up the day perfectly:
“It is an iconic day to officially welcome the Gold crown jewels into the collection, with the help from our wonderful volunteers. A powerful moment for the preservation of pure joy.”
The Gold Crown Jewels are part of the rich history of Andrew’s legendary Alternative Miss World Competition, a subversive celebration of poise, personality, and originality. They happily join our thirteen other sets of Alternative Miss World regalia which currently reside in the museum collection, spanning over 50 years worth of competitions!
For anyone who wants to experience the joyful madness of the Gold Alternative Miss World, you can watch the full competition via https://www.youtube.com/live/iJoiF2LGRIM?si=iTNKND9wuHHtkugP
This accessioning milestone is, however, just one part of a much larger journey. As part of the Legacy Project, we’re researching, cataloguing, and celebrating the stories behind many objects in our collection.
We’d love for more people to join us on this exciting adventure. If you’re passionate about art, heritage, or Andrew’s world of creativity, why not consider volunteering with us? Whether it’s helping with collections, events, or visitor engagement, your time and enthusiasm can make a huge difference.
Get in touch with us at [email protected] we’d love to welcome you to the ALMoS family!
Ennyd Aur: Cofnodi Derbyn Tlysau Coron Miss Word Amgen 2022
Roedd yr wythnos diwethaf yn foment wirioneddol euraid i mi fel Curadur Prosiect yn Amgueddfa Gerfluniau Andrew Logan wrth i ni gofnodi derbyn Tlysau aur Coron Miss Word Amgen yn swyddogol i’n casgliad!
Mae’r garreg filltir hon yn rhan o’n Prosiect Etifeddiaeth parhaus, a gynorthwyir yn hael gan Gronfa Dreftadaeth y Loteri Genedlaethol, ac mae’n nodi cam gwych ymlaen yn y dasg o gadw a dathlu etifeddiaeth eithriadol Andrew.
Fel curadur, mae cofnodi derbyniad yn teimlo i mi fel sicrhau’r lle cywir i bob cerflun yn stori’r amgueddfa. Mae’r broses hon o ddogfennu gwrthrych yn swyddogol i’r casgliad parhaol, gwirio ei gyflwr, ei labelu a’i groesawu, yn gofyn am roi sylw manwl i fanylion, ac rydym yn ddiolchgar iawn yn hyn o beth i’n gwirfoddolwyr gwych nad ydynt yn arbenigwyr ar gofnodi derbyniadau! Ddoe, ar ôl cwblhau’r camau hyn, fe wnaethom osod Tlysau’r Goron i’w harddangos gyda balchder yng nghas ffenestr yr Amgueddfa i bawb eu gweld!
Crynhodd ein Cydlynydd Prosiect, Judy, y diwrnod yn berffaith:
“Mae’n ddiwrnod eiconig i groesawu’r gemau coron Aur yn swyddogol i’r casgliad, gyda chymorth ein gwirfoddolwyr gwych. Munud pwerus o gadw llawenydd pur.”
Mae’r Tlysau aur y Goron yn rhan o hanes cyfoethog Cystadleuaeth Miss Word Amgen chwedlonol Andrew, dathliad chwyldroadol o hunanhyder, personoliaeth a gwreiddioldeb. Maent yn ymuno’n hapus â thair set ar ddeg eraill o wisgoedd Miss Word Amgen, sydd ar hyn o bryd yn byw yng nghasgliad yr amgueddfa, yn cwmpasu dros 50 mlynedd o gystadlaethau!
I unrhyw un sydd eisiau profi gwallgofrwydd llawen y Miss Word Amgen Aur, gallwch wylio’r gystadleuaeth lawn drwy https://www.youtube.com/live/iJoiF2LGRIM?si=iTNKND9wuHHtkugP
Fodd bynnag, un rhan yn unig o daith lawer mwy yw’r garreg filltir hon o ran derbyniadau. Fel rhan o’r Prosiect Etifeddiaeth, rydym wrthi’n ymchwilio, yn catalogio ac yn dathlu’r straeon y tu ôl i lawer o’r gwrthrychau yn ein casgliad.
Byddem wrth ein bodd pe bai mwy o bobl yn ymuno â ni ar yr antur gyffrous hon. Os ydych chi’n angerddol am gelf, treftadaeth, neu fyd creadigrwydd Andrew, beth am ystyried gwirfoddoli gyda ni? Boed yn helpu gyda chasgliadau, digwyddiadau, neu ymgysylltu ag ymwelwyr, gall eich amser a’ch brwdfrydedd wneud gwahaniaeth enfawr.
Cysylltwch â ni yn [email protected] Byddem wrth ein bodd yn eich croesawu i deulu Amos!


